Llioniaid a'u llawenydd,
Fel brodyr yn dathlu'r dydd!
Heno ar hyd y glannau, daw i gof
chwe deg wyth o ynnau
a sain beiddgar gitarau
yn tanio awch crwtyn iau.
O'r Rhyl tu hwnt i orwelion dy fyd
fe est â'th ganeuon,
ond roedd ardal dy galon
yn gaer hud i yrfa gron.
Y canwr Mike Peters - prif leisydd The Alarm - wedi marw yn 66 oed ar ôl brwydr 30 mlynedd â chanser
bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau…
📸 The Alarm
Ar-lein, mae 'na awyr las draw o hyd,
a’r awch am gymdeithas
harddach ag iddi urddas
a sŵn creu nid atsain cras.
@llionj.bsky.social
3
242
O'u hôl bydd gwaddol ar gae
Chwiorydd yn cyd-chwarae.
If you can see it, you can be it.
Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ♥️
#ForHer | #TogetherStronger
O droi iaith holl enwau'r dre'
Bro galar fydd Bro Gele.
Trist gweld hen dafarn Pen y Bont yn #Abergele yn cael enw Saesneg amhriodol newydd. Mae'r un perchennog hefyd yn ail-enwi'r Gwindy yn The Winery. Mae'r dafarn yna'n ail agor ar #DyddGwylDewi
Job yw i fanijo beirdd
a rhoi hefyd i brifeirdd
drywydd drwy fyd yr awen
a llwybr i loywi ein llên.
#cydlynyddbarddas
lleol.cymru/cy/swyddi/cydlyn…
Yn ôl darluniau Ollie,
Dodl yw iaith o'i dwdlo hi.
@YLolfa @OliverTurnbul15
Lansiad llyfr newydd @OliverTurnbul15 - ‘Welsh Doodles / Dwdls Cymraeg’ yn @eisteddfod Genedlaethol Cymru! 🎉 📖
@canolfanbedwyr @colegcymraeg @CymraegBangor
Oherwydd dy lafurwaith fe yrrwn
ein myfyrwyr ymaith
yn llawen yn yr heniaith
a gloyw iawn eu sgiliau iaith.
Dymuniadau gorau i @SianEsmor sy'n rhoi'r gorau i'w swydd fel tiwtor iaith yr wythnos hon. Diolch o galon i chdi am holl waith gyda myfyrwyr a staff @prifysgolbangor @CangenBangor @colegcymraeg dros y blynyddoedd.
Mae hanes a chymuned yma'n dîm,
mae 'na dorf ar gerdded
o Fangor yn agored
i'r ail haen a'i ffydd ar led.
✊@Bangor1876
Going up to the #JDCymruNorth ⬆️
Llongyfarchiadau @Bangor1876, see you next season! 👏
Ti fu chwedl dy genhedlaeth ar y maes,
ŵr mwyn dy arwriaeth,
yn cymell er gwell, er gwaeth,
dy wal â'th ysbrydoliaeth.
#diolchchris
Cael lle gwag, rhoi pas agos,
Pirlo sir Benfro heb os
A'n harwr yn yr Euros.
#DiolchJoe 😢
I gynnal iaith y galon,
Gorau arf ydy'r bêl gron. #afoben
‘Ben Davies speaking gibberish’ 🏴
Fe wnaeth @ben_davies33 dderbyn negeseuon sarhaus gan drolwyr ar ôl iddo siarad Cymraeg mewn Cynhadledd Cwpan y Byd yn Qatar y llynedd ⚽️
Dyma ei ymateb 👇🏼
#YBydarBedwar #Football #Welsh
@Spursofficial @FAWales
Myn Duw, rwyf mewn cwmni da,
DI sy'n mynd i Doha. @dafyddiwan
#ArBenYByd







































