
ALT Ar gefndir pinc, gwybodaeth yn ysgrifen wen (tu fewn bocsys gwyn) am berfformiad Corau Mas ar y Maes, sy’n cynnwys Côr Meibion Hoyw De Cymru, Côr Songbirds a Chantorion Traws Caerdydd. Cynhwysir gwybodaeth angenrheidiol: diwrnod (Sul), dyddiad (04/08/2024), amser (14:00) a’i lleoliad (Llwyfan y Maes), a delwedd o nodiadau cerddorol.

ALT Delwedd o goron aur gyda gwybodaeth angenrheidiol am ‘Atgof: Canrif o Gariad Cwiar’, perfformiadau golau-canwyll yn dathlu canmlynedd ers llwyddiant bardd LHDTC+ Prosser Rhys. Bu’r digwyddiad yn cynnwys rhaniadau a pherfformiad gan Gavin Ashcroft, Cantorion Traws Caerdydd, Dylan Cernyw, Sara Huws, Miriam Isaac, Melda Lois, Nia Morais, Lloyd Steele, Jordan Price Williams a Meilir Rhys Williams. Cynhwysir gwybodaeth angenrheidiol: amser (21:15), diwrnod (Sul), dyddiad (04/08) a’r lleoliad (Y Bandstand).

ALT Ar gefndir oren, gwybodaeth yn ysgrifen wen (tu fewn bocsys pinc) am sesiwn ‘DRAMA’, perfformiadau o ddetholiadau o ddramâu LHDTC+, gan gynnwys ‘Dy Enw Farw’ gan Elgan Rhys, mewn cydweithrediad â Leo Drayton, 'Imrie' gan Nia Morais a 'Gŵyl y Baban’ gan Nia Gandhi, wedi cyfieithu gan Megan Angharad Hunter. Cynhwysir gwybodaeth angenrheidiol: diwrnod (Llun), dyddiad (05/08/2024), amser (18:00) a’i lleoliad (Paned o Gê), a delwedd o gadair cyfarwyddwr. Cyfarwyddwyd gan Juliette Manon ac mae’n serennu Leo Drayton, Priya Hall, Enfys Clara a Catrin Mai Edwards.

ALT Ar gefndir glas, gwybodaeth yn wyn (tu fewn bocsys melyn) am ‘Wâc a Sgwrs’ gyda Sara Huws, taith gerdded hamddenol mewn cwmni da. Blas o hanes swyddogol (ac answyddogol) Pontypridd, a chyfle i archwilio tu hwnt i'r maes mewn awyrgylch groesawgar. Taith heb risiau, 90 munud. Cynhwysir gwybodaeth angenrheidiol: diwrnod (Mercher), dyddiad (07/08/2024), amser (13:00) a’i lleoliad (Prif Fynedfa), a delwedd o Sara Huws ei hun. Rhaid cofrestru ymlaen llaw ar EventBrite.

ALT Cymraeg: Delweddau cartŵn amryliw o ddarnau gwyddbwyll, ffigyrau mewn gwisgoedd flapper a marchog ar gefndir du. Cynhwysir hefyd gwybodaeth am y digwyddiad, megis y lein-yp (Daniel Huw Bowen, Sir Domme Jones, Aiman, The Cardiff Dolls, Marmalade a Cardiff Trans Singers), lleoliad (The Queer Emporium), dyddiad (01/03/2024) a’r pris (£8.00). English: Colourful cartoon images of chess pieces and figures in flapper wear and a knight’s outfit. Included in the image is information about the event, such as the line-up (Daniel Huw Bowen, Sir Domme Jones, Aiman, The Cardiff Dolls, Marmalade a Cardiff Trans Singers), the location (The Queer Emporium), the date (01/03/2024) and the price (£8.00).



















