Wyf Gymro

Dolgellau
Joined April 2009
Cymro (Gethin ap Gruffydd 1946 - 2025) Gethin, daethost i'n gwthio - i'n hysgwyd, addysgu a'n deffro Γ’ grym i'n hadfer o'r gro atat a chodi eto. #Cofiwn @IfanSian
94
Celfyddyd 18/7/2025 Daw Daniel ag awen a doniau - graen ei grefft i Ddolgellau; pletha fydr a gwydr a'u gwau Γ’ llewyrch i greu lliwiau. Gwaith gwydr Daniel Mahers, Abertawe. Cerddoriaeth Tud JΓ΄s - Y Gwydr Glas vm.tiktok.com/ZNdHdDRrs/ – at Dolgellau, Wales
1
130
Llwyddiant! Weithiau wir mae hi werth o - i roi stamp a chreu stΕ΅r a chwyno a rhegi dros Gymreigio: hon yw'r frwydr dros wella'r fro. @postoffice @comygymraeg @ofcomcymraeg @Cymdeithas xitter.cf/Gurfal/status/18179607… – at Dolgellau, Wales
Gormes Hwyrach fod swyddfeydd llythyrau - y byd ymhob iaith fedd mamau bro leol rhag iselhau... Ni ellir yn Nolgellau. @postoffice @comygymraeg @ofcomcymraeg @Cymdeithas
4
311
Genedigaeth Darfod a fu i'r diderfyn - aeaf a'i wywo mor sydyn, Γ‚'i las wawr dan yr haul syn i gynnal dychwel gwanwyn. #Heuldro #AlbanEilir – at Swansea, Wales
1
118
Dydd GΕ΅yl Emyr 2025 I d’afiaith a’th gwmni difyr - i’th wΓͺn a’th ddoniau mor brysur, Cymrwn beint i’n Cymro’n bur - llymaid i’n cyfaill Emyr. – at Dolgellau, Wales
1
113
Calon LΓ’n (Dai Matthews 1947-2025) Hud ei hiwmor a dwymai - ein hwyliau, ei alaw wresogai a'i gΓ’n iasol gynhesai dywydd pob dydd. Diolch Dai.
1
4
216
Dechrau Newydd I'n Calan ar wib yn gibddall - deuwn Γ’ diolch heb ddeall: Pob gwawr, bob awr daw'n ddi-ball o flerwch gyfle arall. #BlwyddynNewyddDda – at Dolgellau, Wales
1
1
2
360
Rhad O dan dy goeden eleni - boed hwyl, byd o hedd a miri'n lonwedd, boed it haelioni, a gwΓͺn iach yn rhwydd gen i. #NadoligLlawen – at Swansea, Wales
1
229
Shane MacGowan (25/12/1957 - 30/11/2023) I ba le heddiw aeth blwyddyn - a ble'r aeth llais bloesg yr hogyn? Mi aeth awen amheuthun ond parhau mae doniau'r dyn. youtu.be/6s8lvnSmISc?si=jP_n…
5
314
Catrin Ferch GlyndΕ΅r Nid seigiau i dywysogion - nid gwΓͺn Ond gwarth carcharorion A grym ymerodraeth gron Ry hualau mor greulon. pellcerdd.bandcamp.com/track…
4
244
Huw Bach Er distaw ei alawon - a'i rinwedd ar ynys derwyddon fe ddeil hafau'i waddolion yn llawn hud, nid mud fydd MΓ΄n. Huw Roberts (1957-2024) – at Dolgellau, Wales
15
1
47
2,181
Ffarwel i'r Marian O'ma fe aiff eich timau heb gΓ΄l yn wynebu'u gwae o golli yn Nolgellau. @cpdDolaafc @Lawnt – at Dolgellau, Wales
4
10
502
Kamala a'i Dryll Dywed chwaer daer, heb dosturi - Γ₯ gwΓͺn: ddatganiad i lonni y byd hwn gan ei bod hi yn bleidiol i'r bwledi. #Amerig2024 – at Wales, United Kingdom
1
165
Alban Elfed Er tywyll yw rhod daear Bedd Gurfal sydd ddi-alar Γ’ gwawl ei oleuni gwΓ’r. #Mabon #CyhydnosYrHydref
1
198
7pm Yr egwyl o ddisgwyliad - yr eistedd drwy osteg, deisyfiad o erfyn hir ar fwynhad a heddwch yn wahoddiad. – at Tarragona, Espanya
1
292
Pws Am fyw'n unigryw ddigri - am roi'i gΓ’n mor gain ac am roddi dawn ei hwyl i'n hienctid ni: Ein diolch rown i Dewi. #DewiPws – at Swansea, Wales
16
124
2,471
Sioe Synnet at gampau a swynion - rhai hyf ar wib drwy'r entrychion ac uffern rhai dan gyffion... Miri rhemp y Gymru hon. – at Tywyn, Wales
1
293
Gormes Hwyrach fod swyddfeydd llythyrau - y byd ymhob iaith fedd mamau bro leol rhag iselhau... Ni ellir yn Nolgellau. @postoffice @comygymraeg @ofcomcymraeg @Cymdeithas – at Wales, United Kingdom
3
1
5
1,128
Diolch am Gefnogi @SesiwnFawr Dolgellau I'n gigiau o bell ac agos - daethoch ar deithiau yn ddiddos yn dylwyth am benwythnos, yn deulu haf i'n tre' dlos. – at Dolgellau, Wales
2
12
601
Cymru Nid gwlad falch wnaed o galchfaen - yn feddal anfoddog ddi-sylfaen, ein nythfa o wenithfaen ry' naws bΓͺr o haearn Sbaen. πŸ‡ͺπŸ‡Έ #EURO2024β€―β€―β€― | #ESPENG
5
427